DIWEDDARIAD AR FUDD-DAL TAI
Mae Budd-dal Tai yn cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Dim ond os ydych yn bodloni un o’r amodau canlynol y gallwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai:
- rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn byw mewn llety â chymorth, llety gwarchodedig neu lety dros dro
Os ydych yn cael Budd-dal Tai, byddwch yn derbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Gelwir y llythyr hwn yn ‘hysbysiad mudo’. Bydd yr hysbysiad yn nodi dyddiad cau i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Os na wnewch gais mewn pryd, efallai y byddwch yn derbyn llai o Gredyd Cynhwysol.
I gael rhagor o wybodaeth am symud i Gredyd Cynhwysol, ewch i wefan Cyngor ar Phopeth.
Mae p’un a allwch gael budd-dal tai fel myfyriwr yn dibynnu’n bennaf ar a ydych yn astudio’n llawn amser neu’n rhan amser.
Nid oes gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn hawl i fudd-dal tai, ond mae rhai eithriadau.
Fel arfer gall myfyrwyr rhan-amser hawlio.
A allaf hawlio budd-dal tai?
Os ydych yn fyfyriwr, gallwch hawlio budd-dal tai i helpu i dalu eich rhent:
- rydych ar gwrs rhan amser, neu
- rydych dros oedran pensiwn.
Os yw’ch partner yn byw gyda chi ac nad yw’n fyfyriwr, gallwch hawlio budd-dal tai fel cwpl. Fodd bynnag, bydd eich incwm, er enghraifft eich grant neu fenthyciad myfyriwr, yn cael ei ystyried, a gallai leihau swm y budd-dal y mae gan eich partner hawl iddo.
Ni all myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio yn y DU hawlio budd-dal tai.
Rwy’n fyfyriwr llawn amser
Os ydych yn fyfyriwr llawn amser, efallai y byddwch yn dal yn gallu hawlio budd-dal tai os ydych:
- yn anabl
- yn gyfrifol am blant
- yn ofalwr maeth unigol
- o dan 21 oed a ddim mewn addysg uwch (er enghraifft, astudio Safon Uwch yn y coleg)
- o dan 20 oed ac mae rhywun yn cael Budd-dal Plant ar eich rhan
- yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- yn derbyn pensiwn y wladwriaeth
- gadael eich cwrs dros dro oherwydd salwch neu gyfrifoldebau gofalu
- yn byw mewn llety â chymorth ac yn derbyn Credyd Cynhwysol.
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn fyfyriwr amser llawn, siaradwch â rhywun yn eich coleg neu brifysgol.
Beth ddylwn i ei wneud os credaf y gallaf hawlio budd-dal tai?
Os credwch y gallech hawlio budd-dal tai, gwnewch gais cyn gynted ag y gallwch.
Peidiwch â rhoi’r gorau i dalu eich rhent nes eich bod wedi cael cadarnhad y bydd gennych hawl i fudd-dal, a faint fyddwch chi’n ei gael. Gall gymryd amser hir i hawliad gael ei brosesu. Os byddwch yn rhoi’r gorau i dalu eich rhent ac yn cael gwybod yn ddiweddarach nad oes gennych hawl i fudd-dal, neu fod gennych hawl i lai nag yr oeddech wedi’i feddwl, fe allech fod ag ôl-ddyledion rhent difrifol yn y pen draw.
I gael rhagor o wybodaeth am aros i’ch budd-dal tai gael ei brosesu, cliciwch yma.
Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Mae’r rheolau ynghylch myfyrwyr a budd-daliadau yn gymhleth, felly os nad ydych chi’n siŵr a oes gennych chi hawl i gael cymorth gyda’ch rhent mae’n well cael cyngor bob amser. Gallwch gael help gan Shelter Cymru, Cyngor ar Bopeth neu siarad â’ch undeb myfyrwyr.
Gwiriwch Entitledto i weld beth y gallwch ei hawlio a chysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth lleol am wybodaeth fanylach.
I gael llawer mwy o gyngor ar dai ac awgrymiadau i fyfyrwyr, ewch i’n tudalen myfyrwyr porth pobl ifanc.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 28, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.