Skip to main content

Beth mae fy mhenderfyniad Budd-dal Tai yn ei olygu?

Beth mae fy mhenderfyniad Budd-dal Tai yn ei olygu?

Ar ôl i’ch cais am Fudd-dal Tai gael ei brosesu, byddwch yn derbyn llythyr penderfyniad. Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych sut i weithio allan beth mae’r llythyr yn ei ddweud a beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n anghytuno ag ef.

Deall y llythyr

Dylech chi bob amser wirio’ch llythyr penderfyniad budd-dal tai yn ofalus. Bydd y llythyr penderfyniad yn dweud wrthych chi a oes gennych chi hawl i unrhyw fudd-dal ac, os felly, faint. Dylai hefyd esbonio sut y cyfrifwyd eich budd-dal.

Dylai’r llythyr gynnwys yr holl bethau a ddisgrifir isod:

  • Eich rhent cymwys
  • Fel arfer, eich rhent cymwys yw’r rhent gwirioneddol a godir gan eich landlord, llai symiau ar gyfer:
  • unrhyw ffioedd gwasanaeth anghymwys
  • unrhyw ystafelloedd gwely sbâr y mae’r rheolau’n dweud nad oes gennych chi hawl iddynt (a elwir yn ‘dreth yr ystafell wely’)
  • unrhyw oedolion annibynnol sy’n byw gyda chi a allai gyfrannu at y rhent

Budd-dal tai/lwfans rhent

Dyma swm y budd-dal y byddwch chi’n ei dderbyn, neu a fydd yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord.

Os yw’r swm yma yn llai na’r rhent cymwys, yna mae diffyg rhwng eich budd-dal a’ch tâl rhent. Bydd yn rhaid i chi wneud iawn am y diffyg hwn eich hun. Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am daliad tai dewisol i’ch helpu i dalu’r diffyg hwn.

Y dyddiad y mae’r budd-dal i’w dalu

Dylai’r llythyr nodi’r dyddiad y byddwch yn cael eich talu o’r budd-dal. Fel arfer, telir hwn o’r dydd Llun ar ôl:

  • y gofynnoch i’r cyngor am ffurflen i hawlio budd-dal tai (ar yr amod eich bod wedi’i dychwelyd, wedi’i chwblhau’n iawn, o fewn 1 mis)
  • y mae eich hawl i gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, lwfans cyflogaeth a chymorth neu gredyd pensiwn yn dechrau

Os gwnewch eich hawliad cyn gynted ag y byddwch yn symud i mewn, fel arfer gallwch gael budd-dal tai o’r dyddiad y mae eich tenantiaeth yn dechrau.

Manylion beth i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad

Dylai’r llythyr ddweud wrthych beth i’w wneud os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad a’r terfynau amser ar gyfer herio’r penderfyniad (gweler isod).

Dydw i dal ddim yn siŵr beth mae’r cyfan yn ei olygu

Os oes unrhyw beth yn y llythyr nad ydych chi’n siŵr amdano, gallwch ofyn i’r adran budd-daliadau tai ei egluro’n fanylach. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ddatganiad o resymau’.

Os ydych chi eisiau gofyn am ‘ddatganiad o resymau’ rhaid i chi wneud hynny:

  • trwy lythyr, ac
  • o fewn 1 mis i ddyddiad y llythyr penderfyniad.

Os oes angen cyngor arnoch am y llythyr, gallwch gysylltu â Chyngor ar Bopeth Cymru neu gael cymorth gan gynghorydd Shelter Cymru. Gallai ein tudalen ar jargon Tai a Threth y Cyngor hefyd eich helpu.

Nid wyf yn cytuno â’r llythyr – alla i wneud unrhyw beth?

Os oes rhywbeth yn y llythyr nad ydych chi’n cytuno ag ef, neu os ydych chi’n credu bod camgymeriad wedi bod, gallwch ofyn i’r cyngor edrych eto ar eu penderfyniad. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth’ neu ‘apêl’.

Rhaid gwneud apêl neu gais am ailystyriaeth o fewn mis i ddyddiad y penderfyniad. Cymerwch olwg ar ein tudalen ar ‘Herio penderfyniad ynghylch budd-dal tai’ am fwy o fanylion.

Efallai y bydd cynghorydd o Shelter Cymru yn gallu gwirio’r penderfyniad i weld a yw’n gywir. Byddant hefyd yn gallu eich helpu i herio’r cyngor os nad yw’r penderfyniad yn gywir.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 7, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.