Skip to main content

Helpu i’ch atal rhag dod yn ddigartref

Os ydych yn gymwys ac mewn perygl o golli eich cartref yn ystod y 56 diwrnod nesaf, rhaid i’r cyngor eich helpu i geisio cadw eich cartref presennol neu i gymryd camau i’ch atal rhag dod yn ddigartref. Gelwir hyn yn ddyletswydd i helpu i atal digartrefedd, neu “y ddyletswydd atal”.

Mae’r ddyletswydd atal yn ddyledus i bob ymgeisydd cymwys waeth beth fo’i angen blaenoriaethol, bwriadoldeb neu gysylltiad lleol.

Pwy all gael cymorth i’w hatal rhag dod yn ddigartref?

Rhaid i’ch cyngor lleol geisio helpu i’ch atal rhag dod yn ddigartref os ydych:

Rydych dan fygythiad o ddigartrefedd os ydych yn debygol o ddod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod. Byddai hyn yn berthnasol, er enghraifft, os ydych yn ddeiliad contract meddiannaeth sydd wedi cael hysbysiad dilys gan eich landlord ei fod ef neu hi am eich troi allan.

NID oes yn rhaid i chi fod mewn angen blaenoriaethol i dderbyn cymorth o dan y ddyletswydd atal a dylid darparu cymorth waeth beth fo’r rhesymau pam y daethoch mewn perygl o fod yn ddigartref.

Sut mae cael help gan y cyngor i’m hatal rhag bod yn ddigartref?

Os ydych yn debygol o golli eich cartref yn ystod y 56 diwrnod nesaf dylech gysylltu â’ch cyngor lleol a gofyn am gael gwneud cais digartrefedd.

Dylai’r cyngor gymryd cais oddi wrthych, cynnal asesiad o’ch anghenion tai ac, os ydych yn gymwys, cynnig rhywfaint o help i geisio eich atal rhag dod yn ddigartref.

Dylai’r cyngor ddweud wrthych yn ysgrifenedig a ydynt yn mynd i’ch helpu ai peidio. Rhaid naill ai anfon y llythyr atoch chi neu ei adael yn swyddfeydd y cyngor i chi ei gasglu.

Os bydd y cyngor yn penderfynu peidio â rhoi unrhyw help i chi rhaid i’r llythyr esbonio’r rhesymau pam. Efallai y gallwch ofyn i’r cyngor adolygu ei benderfyniad. Os ydych am wneud hyn mynnwch gyngor ar unwaith. Gall y drefn fod yn gymhleth a rhaid i chi ofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr penderfyniad.

Pa help all y cyngor ei roi?

Unwaith y bydd y cyngor wedi penderfynu eich bod yn gymwys ac o dan fygythiad o ddigartrefedd, dylai gymryd camau rhesymol i’ch helpu i:

  • gadw eich cartref presennol;
  • ohirio symud allan o’ch cartref presennol nes bod unrhyw gartref newydd yn barod; neu
  • ddod o hyd i rywle arall i fyw fel nad ydych yn dod yn ddigartref.

Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i’r cyngor ddarparu cartref newydd i chi, dim ond ei fod yn gorfod eich helpu trwy gymryd camau rhesymol i’ch atal rhag dod yn ddigartref.

Gall y cyngor roi cymorth yn uniongyrchol neu gallant drefnu i rywun arall eich helpu, fel cynghorydd tai neu ddyledion arbenigol.

Beth yw ‘camau rhesymol’?

Wrth benderfynu beth yw ‘camau rhesymol’, dylai’r cyngor edrych ar amgylchiadau ac anghenion penodol eich cartref. Dylai’r cyngor siarad â chi am ba gamau fyddai’n briodol yn eich achos chi a chytuno ar y camau i’w cymryd gyda chi.

Dyma enghreifftiau o’r camau y gallai cyngor eu cymryd:

  • darparu gwasanaeth cyfryngu rhyngoch chi ac unrhyw aelod o’ch teulu neu gymdogion i geisio helpu i ddatrys unrhyw anawsterau
  • cynnig siarad â’ch landlord i geisio caniatáu i chi aros yn eich cartref neu gytuno ar fwy o amser fel y gallwch ddod o hyd i rywle arall
  • eich helpu i drafod gyda’ch benthyciwr morgais neu wneud cais am help fel y gallwch barhau i dalu eich taliadau morgais (er enghraifft, trwy Gynllun Achub Morgeisi neu Gymorth ar gyfer taliadau Llog Morgais)
  • darparu grant neu fenthyciad i chi dalu ôl-ddyledion
  • darparu grant neu fenthyciad i chi dalu blaendal neu rent ymlaen llaw ar gartref newydd
  • darparu cyngor arbenigol i chi am eich arian, budd-daliadau neu dai, neu eich cyfeirio ato
  • eich helpu i osod cyllideb realistig fel y gallwch fforddio aros yn eich cartref neu dalu am rywle newydd
  • eich helpu i lenwi ffurflenni cais am dŷ
  • darparu cyngor a chefnogaeth i chi am ddiogelwch personol os ydych mewn perygl o gael eich cam-drin, neu eich helpu i ddod o hyd i gartref neu loches diogel a’ch cyfeirio am gyngor cyfreithiol os oes angen
  • eich helpu gyda chais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn neu i’r Gronfa Cymorth Dewisol
  • darparu pecyn dodrefn i chi
  • eich cefnogi gyda cheisiadau am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl i helpu i addasu eich cartref.

Enghreifftiau yn unig yw’r rhain o’r camau y gallai’r cyngor eu cynnig i chi. Efallai y byddant yn cynnig help arall nad yw ar y rhestr. Os oes rhywfaint o help y credwch y gall y cyngor ei ddarparu a fyddai’n eich atal rhag dod yn ddigartref, siaradwch am y cymorth hwnnw gyda nhw.

Dylai’r cyngor gytuno â chi ar y camau sydd i’w cymryd. Efallai y bydd rhai cynghorau yn cytuno ar Gynllun Tai Personol gyda chi. Gofynnwch am gopi o hwn fel y gallwch weld beth sydd wedi’i gytuno. Os nad oes gennych Gynllun Tai Personol gofynnwch i’r cyngor ysgrifennu’r camau y cytunwyd arnynt a rhoi copi i chi.

Pa mor hir sydd gan y cyngor i roi help i mi i atal digartrefedd?

Unwaith y bydd y cyngor wedi derbyn mae’n rhaid iddynt eich helpu i atal eich digartrefedd, mae’n rhaid iddynt roi cymorth i chi nes bod un o’r pethau canlynol yn digwydd:

1/ Rydych chi’n dod yn ddigartref

Os byddwch yn dod yn ddigartref mae’n rhaid i’r cyngor adolygu eich achos a phenderfynu a oes rhaid iddynt roi unrhyw help arall i chi. Mae’n debygol y bydd gan y cyngor ddyletswydd i helpu i sicrhau llety i chi ac, os ydych yn bodloni meini prawf penodol, efallai y bydd yn rhaid iddynt roi llety brys i chi.

2/ Rydych chi’n dod o hyd i lety addas sy’n debygol o fod ar gael i chi am y 6 mis nesaf

Os ydych wedi dod o hyd i lety addas y gallwch aros ynddo am o leiaf y 6 mis nesaf, nid oes rhaid i’r cyngor roi unrhyw help pellach i chi i atal eich digartrefedd. Nid oes gwahaniaeth sut y daethoch o hyd i’r llety – efallai ei fod wedi digwydd o ganlyniad i’r cymorth y mae’r cyngor wedi’i roi i chi ai peidio. Mae’n rhaid i’r cyngor fod yn fodlon bod y llety’n addas ar gyfer eich anghenion cyn iddynt benderfynu nad oes yn rhaid iddynt eich helpu mwyach. Mae’n rhaid i’r llety fod ar gael i chi symud i mewn iddo, nid dim ond addewid gan landlord y bydd gennych lety rywbryd yn y dyfodol. Os ydych wedi symud yn ôl adref, er enghraifft oherwydd bod y cyngor wedi eich helpu i roi trefn ar bethau gyda’ch teulu, yna mae’n rhaid i’r cyngor fod yn fodlon nad trefniant dros dro yn unig ydyw ac y byddwch yn gallu aros yn ôl gartref am o leiaf. y 6 mis nesaf.

3/ Rydych yn gwrthod cynnig o lety addas

Os yw’r cyngor yn cynnig llety addas i chi ond eich bod yn gwrthod y cynnig, yna gall y cyngor benderfynu nad oes rhaid iddynt eich helpu ymhellach o dan y ddyletswydd atal. Rhaid i’r cyngor fod yn fodlon y byddai’r llety y maent yn ei gynnig i chi wedi bod ar gael am o leiaf y 6 mis nesaf.

Gall y cynnig fod gan unrhyw berson a gall gynnwys cynnig gan ffrindiau neu deulu, landlord preifat neu gymunedol, neu gall fod yn gynnig o lety â chymorth a/neu hostel.

Os yw’r cynnig ar gyfer hostel neu ryw lety dros dro arall, rhaid i’r cyngor fod yn fodlon ei bod yn debygol y gallwch aros yno am y 6 mis nesaf, ac y byddwch yn gallu cadw at unrhyw rai o’r rheolau a osodwyd gan y landlord. Os yw’r cyngor o’r farn mai dim ond gyda rhywfaint o help neu gefnogaeth y byddwch chi’n gallu cadw at y rheolau yna fe ddylen nhw wneud trefniadau i’r cymorth hwn neu’r help gael ei roi i chi cyn iddo gynnig y llety i chi.

Os cynigir llety i chi nad yw’n addas yn eich barn chi, efallai y byddai’n well derbyn y cynnig a gofyn am adolygiad o’i addasrwydd yn hytrach na gwrthod y cynnig a pheryglu na chewch unrhyw gymorth pellach.

4/ Nid ydych yn gymwys mwyach

Ni fydd yn rhaid i’r cyngor helpu i atal eich digartrefedd os bydd yn sefydlu nad ydych bellach yn gymwys i gael cymorth.

5/ Mae camgymeriad ffeithiol wedi digwydd

Os bydd y cyngor yn darganfod bod ffeithiau anghywir wedi arwain at benderfynu bod yn rhaid iddynt eich helpu, yna gallant dynnu’r cymorth hwnnw yn ôl ar unwaith.

Gall camgymeriad ffeithiol ddigwydd os na fyddwch yn dweud rhywbeth wrth y cyngor yn fwriadol pan fyddwch yn gwneud cais am gymorth neu os byddwch yn rhoi gwybodaeth ffug, er enghraifft, dweud wrth y cyngor bod plant yn byw gyda chi pan fyddant mewn gwirionedd yn byw yn rhywle arall.

Efallai eich bod yn cyflawni trosedd os byddwch yn gwneud datganiad ffug neu’n atal gwybodaeth rhag y cyngor yn fwriadol.

6/ Rydych yn tynnu eich cais yn ôl

Os byddwch yn tynnu eich cais yn ôl, nid oes rhaid i’r cyngor eich helpu mwyach.

Efallai y bydd y cyngor yn penderfynu bod eich cais wedi’i dynnu’n ôl os na fydd yn clywed gennych mewn mwy na 3 mis. Mae’n syniad da felly i gadw mewn cysylltiad â’r cyngor.

7/ Rydych yn methu’n afresymol â chydweithredu â’r cyngor

Gall y cyngor wrthod rhoi rhagor o help i chi os ydynt yn meddwl nad ydych yn cydweithredu â nhw. Gallai hyn fod oherwydd:

  • nid ydych wedi dod i sesiynau sydd wedi’u trefnu gan y cyngor i’ch helpu, er enghraifft apwyntiadau budd-daliadau neu sesiynau cyfryngu
  • nid ydych wedi rhoi’r wybodaeth y mae wedi gofyn amdani i’r cyngor
  • ni fyddwch yn cytuno i gamau y mae’r cyngor yn awgrymu y gallent eich helpu.

Cyn y gall y cyngor benderfynu nad yw’n eich helpu dylai edrych ar eich holl amgylchiadau a cheisio darganfod pam nad ydych yn cydweithredu. Os oes angen help neu gefnogaeth arnoch i wneud y pethau mae’r cyngor yn gofyn i chi, yna fe ddylen nhw geisio darparu hyn. Er enghraifft, efallai y bydd angen gweithiwr cymorth arnoch i esbonio pethau i chi neu i’ch helpu i gyrraedd apwyntiadau ac ati.

Os yw’r cyngor yn ystyried dod â’u dyletswydd i’ch helpu i ben, dylent ddweud wrthych ymlaen llaw er mwyn i chi gael cyfle i ddechrau cydweithredu. Efallai y bydd y cyngor yn anfon llythyr atoch yn eich rhybuddio eu bod yn ystyried dod â’u dyletswydd i’ch helpu i ben a rhoi’r cyfle i chi unioni pethau. Os bydd y cyngor yn dweud nad ydynt yn mynd i’ch helpu mwyach oherwydd nad ydych yn cydweithredu â nhw, yna mynnwch help. Dylai’r cyngor o leiaf roi cyngor sylfaenol i chi am opsiynau tai.

Beth os nad wyf yn cytuno â phenderfyniad y cyngor i beidio â fy helpu ymhellach?

Os bydd y cyngor yn penderfynu nad oes yn rhaid iddynt eich helpu mwyach i atal eich digartrefedd yna mae’n rhaid iddynt roi gwybod i chi yn ysgrifenedig. Rhaid i’r llythyr roi’r rhesymau pam mae’r cyngor wedi gwneud y penderfyniad hwn a bod gennych hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad o fewn 21 diwrnod.

Am gyngor pellach ar herio penderfyniad y cyngor cliciwch yma.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 15, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.