Skip to main content

Trosolwg o ddyletswyddau’r cyngor i bobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru

Trosolwg o ddyletswyddau’r cyngor i bobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru.

Mae gan gynghorau lleol ddyletswyddau cyfreithiol tuag at bobl ddigartref. Os byddwch yn cysylltu â’r cyngor a’ch bod yn ddigartref neu mewn perygl o golli eich cartref yn ystod y 56 diwrnod nesaf efallai y bydd yn rhaid i’r cyngor:

  • roi cyngor a chymorth gyda’ch tai
  • ddarparu llety brys i chi
  • eich helpu i gadw eich cartref
  • eich helpu i ddod o hyd i gartref
  • ddarparu cartref i chi.

Mae’r cymorth a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac fe’i disgrifir yn y crynodeb isod. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y dolenni o fewn pob adran.

Pwy all gael help?

Does dim rhaid i chi fod yn cysgu ar y stryd i gael cymorth gan y cyngor. Efallai y bydd yn rhaid i’ch cyngor lleol eich helpu hefyd os:

  • Rydych yn debygol o fod yn ddigartref o fewn y 56 diwrnod nesaf
  • Dim ond lle rydych chi dros dro y gallwch chi aros (er enghraifft, os ydych chi’n aros gyda ffrindiau neu deulu, mewn argyfwng)
  • Mae’n rhaid i chi symud oherwydd trais neu fygythiadau
  • Rydych chi’n byw mewn amodau gorlawn iawn
  • Rydych chi wedi cael eich cloi allan o’ch cartref
  • Rydych chi’n byw mewn carafán neu gwch preswyl ond nid oes gennych unrhyw le i’w roi
  • Mae eich cartref mewn cyflwr mor wael fel ei fod yn niweidio eich iechyd
  • Rydych chi’n sgwatio neu nid oes gennych chi ganiatâd i aros lle rydych chi
  • Mae eich aelwyd yn cael ei gorfodi i fyw ar wahân oherwydd nad yw eich llety’n addas i chi gyd fyw gyda’ch gilydd.
  • Beth sydd ynghlwm wrth wneud cais?

Os ydych chi’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn y 56 diwrnod nesaf ac yn gofyn i’r cyngor am help, mae’n rhaid iddynt ddilyn gweithdrefnau arbennig. Disgrifir pob un o’r camau yn fanylach isod. Dyma beth ddylai ddigwydd:

  1. Rydych yn gwneud cais digartrefedd i’r cyngor.
  2. Mae’r cyngor yn eich cyfweld ac yn cynnal asesiad o’ch amgylchiadau a’ch anghenion.
  3. Os ydych yn bodloni meini prawf penodol, efallai y cewch gynnig llety brys tra bod y cyngor yn gwneud ei ymholiadau ac yn penderfynu pa gymorth i’w roi i chi.
  4. Mae’r cyngor yn cwblhau ei ymholiadau ac yn dweud wrthych yn ysgrifenedig ei benderfyniad ynghylch a oes gennych hawl i gymorth:
  5. Os ydych yn bodloni meini prawf penodol a bod y cyngor yn penderfynu eich bod mewn perygl o ddigartrefedd o fewn y 56 diwrnod nesaf, mae’n rhaid i’r cyngor roi cymorth a chyngor i chi er mwyn ceisio eich atal rhag dod yn ddigartref (“y ddyletswydd i atal digartrefedd”).
  6. Os ydych yn bodloni meini prawf penodol a bod y cyngor yn penderfynu eich bod yn ddigartref mewn gwirionedd, rhaid i’r cyngor eich helpu i ddod o hyd i gartref (“y ddyletswydd i helpu i sicrhau llety”).
  7. Ar ôl 56 diwrnod, os ydych yn dal yn ddigartref bydd y cyngor yn adolygu eich achos ac, os ydych yn bodloni meini prawf penodol, mae’n rhaid i’r cyngor sicrhau eich bod yn cael cartref (“y ddyletswydd i sicrhau llety”).
  8. Efallai y bydd angen i’r cyngor gymryd camau rhesymol i ddiogelu eich eiddo (“y ddyletswydd i warchod eiddo”).
  9. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y cewch eich anfon i ardal cyngor arall.

Beth sy’n digwydd pan af i’r cyngor?

Pan fyddwch yn mynd at y cyngor ac yn dweud wrthynt eich bod yn ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, dylech gael eich cyfweld gan swyddog y cyngor, a fydd yn cynnal asesiad. Dylai’r swyddog eich holi am eich amgylchiadau, eich anghenion tai ac unrhyw gymorth tai y gallai fod ei angen arnoch. Dylai’r swyddog ganiatáu i chi esbonio sut yr ydych wedi dod yn ddigartref.

Mae’r math o help y mae’n rhaid i’r cyngor ei roi i chi yn dibynnu ar eich sefyllfa unigol. Os ydych chi’n ddigartref neu’n debygol o ddod yn ddigartref o fewn y 56 diwrnod nesaf, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd y lleiaf sy’n rhaid i’r cyngor ei wneud yw:

  • Derbyn cais digartrefedd oddi wrthych.
  • Cynnal asesiad o’ch anghenion tai a chefnogaeth.
  • Rhoi cyngor a chymorth i chi i osgoi colli eich cartref (gall hyn gynnwys eich helpu i drafod gyda’ch landlord neu fenthyciwr morgais) (“y ddyletswydd i atal digartrefedd”).
  • Rhoi cyngor a chymorth i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw (gall hyn gynnwys rhoi cyngor i chi ar eich budd-daliadau, eich cyfeirio at asiantaethau eraill, neu gymorth mwy uniongyrchol fel darparu gwarant bond i chi) (“y ddyletswydd i helpu i sicrhau llety ”).

Nid oes yn rhaid i chi fod mewn angen blaenoriaethol i gael y cyngor a’r cymorth hwn a dylid ei ddarparu waeth beth fo’r rhesymau pam y daethoch yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Gall lefel y cyngor a chymorth a ddarperir amrywio yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os mai dim ond rhestr o westai gwely a brecwast, hosteli a landlordiaid preifat y mae’r cyngor yn ei rhoi i chi, mynnwch help gan Shelter Cymru.

Os ydych yn debygol o ddod yn ddigartref, ond nid o fewn y 56 diwrnod nesaf, mae’r cyngor yn annhebygol o dderbyn cais digartrefedd.

A fyddaf yn cael llety brys ar unwaith?

Mae’n rhaid i’r cyngor ddarparu llety brys i chi tra ei fod yn ymchwilio i’ch sefyllfa dim ond os oes ganddo reswm i gredu y gallech fod:

Tra byddwch mewn llety brys, bydd y cyngor yn parhau i ymchwilio i’ch amgylchiadau a phenderfynu a oes gennych hawl i unrhyw gymorth pellach. Os bydd y cyngor yn penderfynu bod yn rhaid iddo eich helpu i ddod o hyd i rywle arall i fyw, yna gall y llety brys hwn barhau tra bod y cymorth hwnnw’n cael ei roi i chi.

Mae’r math o lety brys a ddarperir yn amrywio o gyngor i gyngor a gall fod yn hostel neu’n wely a brecwast. Mae’n rhaid i’r llety brys fod yn addas i chi a’ch teulu, gan ystyried am ba mor hir y byddwch chi yno.

Gall y cyngor godi tâl rhesymol am y llety hwn, ond dylent ystyried a yw’n fforddiadwy i chi. Efallai y gallwch gael Budd-dal Tai i helpu i dalu’r rhent os ydych ar incwm isel.

Beth sy’n digwydd i fy eiddo?

Os yw’r cyngor yn rhoi llety brys i chi neu’n derbyn dyletswydd i sicrhau llety ar eich cyfer, mae’n rhaid iddo hefyd gymryd camau rhesymol i ddiogelu eich eiddo (“y ddyletswydd i ddiogelu eiddo”). Mae hyn ond yn berthnasol os yw eich eiddo mewn perygl ac na allwch wneud trefniadau i’w ddiogelu eich hun. Gallai hyn fod oherwydd:

  • ni allwch fforddio trefnu symud neu storio, neu,
  • rydych chi’n rhy sâl i drefnu unrhyw beth.

Bydd y rhan fwyaf o gynghorau yn rhoi eich nwyddau cartref (fel dodrefn) mewn storfa. Rhaid iddynt wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel hyd nes y byddwch yn gallu eu hamddiffyn eich hun neu nad oes gan y cyngor gyfrifoldeb mwyach i ddarparu llety i chi. Mae’n debyg y bydd y cyngor yn codi tâl arnoch am ofalu am eich eiddo.

Beth sy’n digwydd pan fydd y cyngor yn gwneud penderfyniad?

Mae’n rhaid i’r cyngor eich hysbysu’n ysgrifenedig o’i benderfyniad ynghylch a oes gennych hawl i gymorth ai peidio. Rhaid naill ai anfon y llythyr atoch chi neu ei adael yn swyddfeydd y cyngor i chi ei gasglu.

Os yw’r cyngor wedi penderfynu nad oes ganddo ddyletswydd i’ch helpu, rhaid i’r llythyr esbonio’r rhesymau pam. Rhaid iddo hefyd eich hysbysu y gallwch ofyn am adolygiad o benderfyniad y cyngor. Rhaid i chi ofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod o dderbyn llythyr penderfyniad y cyngor, felly os ydych am wneud cais am adolygiad, dylech weithredu’n gyflym. Dylech hefyd gael cymorth gyda’r adolygiad ar unwaith oherwydd gall y weithdrefn fod yn gymhleth ac efallai y bydd angen help arnoch i gyflwyno’ch dadleuon pam eich bod yn meddwl bod penderfyniad y cyngor yn anghywir.

Pa gymorth y mae’n rhaid i’r cyngor ei ddarparu ar ôl iddo wneud ei benderfyniad?

Os ydych yn bodloni meini prawf penodol a bod y cyngor yn penderfynu eich bod mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystod y 56 diwrnod nesaf, mae’n rhaid i’r cyngor roi cymorth a chyngor i chi i geisio eich atal rhag dod yn ddigartref (“y ddyletswydd i atal digartrefedd”). Dylent eich helpu i gadw’ch cartref, neu, os nad yw hynny’n bosibl, eich helpu i ddod o hyd i rywle arall i fyw fel nad ydych yn dod yn ddigartref.

Os ydych yn bodloni meini prawf penodol a bod y cyngor yn penderfynu eich bod wir yn ddigartref, rhaid i’r cyngor eich helpu i ddod o hyd i gartref (“y ddyletswydd i helpu i sicrhau llety”). Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i’r cyngor ddarparu cartref i chi, neu y byddwch yn cael cynnig tŷ cymdeithasol parhaol, dim ond eu bod yn gorfod eich helpu i ddod o hyd i le addas i fyw. Dylai’r cyngor roi cyngor a chymorth i chi gyda cheisiadau am dai, budd-daliadau, pecynnau dodrefn ac ati, neu efallai eich ystyried am warant bond neu gyfryngu neu gymorth teuluol. Efallai y byddant yn gweithio gyda chi i ysgrifennu Cynllun Tai Personol gyda chi. Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gall y cyngor roi help i chi ac os nad ydych chi’n hapus gyda’r hyn y mae’r cyngor yn ei wneud i helpu, gofynnwch am help gan Shelter Cymru.

Ar ôl i 56 diwrnod fynd heibio o’r dyddiad y cawsoch eich hysbysu o ddyletswydd y cyngor i’ch helpu, rhaid i’r cyngor adolygu eich achos ac, os yw’n fodlon eich bod:

  • heb lety addas o hyd, neu
  • â llety addas ond nid yw’n debygol o fod ar gael am o leiaf 6 mis, a
  • yn gymwys am gymorth,
  • mewn angen blaenoriaethol, a
  • nad ydych wedi gwneud eich hun yn ddigartref yn fwriadol (ni fydd pob cyngor yn ystyried hyn),
  • rhaid i’r cyngor sicrhau y darperir cartref i chi (“y ddyletswydd i sicrhau llety”). Efallai y bydd y cyngor yn cynnig contract meddiannaeth i chi gyda landlord cymunedol, ond gallant gynnig llety i chi gyda landlord preifat, cyn belled â bod y llety’n addas ac yn debygol o fod ar gael am 6 mis. Rhaid i’r llety fod yn addas ar eich cyfer chi ac anghenion eich aelwyd.

Mewn rhai amgylchiadau, pan fydd eich aelwyd yn cynnwys plant neu bobl ifanc, efallai y bydd gan y cyngor hefyd ddyletswydd i sicrhau llety hyd yn oed os ydynt wedi penderfynu eich bod yn ddigartref yn fwriadol.

A fydd y llety yn addas i mi?

Mae’n rhaid i’r llety y mae’r cyngor yn ei gynnig i chi fod yn addas i chi a’ch aelwyd. Mae’n rhaid i’r cyngor edrych ar ffactorau penodol wrth benderfynu a yw’r llety’n addas i chi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Faint allwch chi fforddio ei dalu am y llety.
  • Lleoliad a maint y llety.
  • Unrhyw effaith y gallai ei gael ar eich iechyd.

Os ydych chi’n meddwl nad yw’r llety mae’r cyngor wedi’i ddarparu yn addas ar gyfer eich anghenion, mynnwch help cyn i chi ei wrthod. Efallai y gallwch herio penderfyniad y cyngor bod y llety’n addas, ond dylech ddarganfod yn gyntaf a oes gennych achos cryf cyn penderfynu pa gamau i’w cymryd. Os byddwch yn gwrthod llety y mae’r cyngor yn ystyried sy’n addas i chi, efallai na fydd yn rhaid iddynt roi unrhyw help pellach i chi.

A allaf gael fy anfon i ardal cyngor arall?

Os bydd y cyngor yn penderfynu bod gennych ddyletswydd i helpu i sicrhau llety, ond nad oes gennych gysylltiad lleol â’r ardal, efallai y bydd yn penderfynu eich cyfeirio at ardal arall. Dim ond mewn rhai amgylchiadau y gall hyn ddigwydd, a esbonnir yn fanylach yma. Ni chaniateir i’r cyngor eich anfon i ardal lle mae unrhyw aelod o’ch cartref mewn perygl o gam-drin domestig.

Os bydd y cyngor yn penderfynu eich cyfeirio i ardal wahanol, mae’n rhaid iddo ddarparu llety brys i chi hyd nes y cewch wybod bod yr atgyfeiriad wedi’i dderbyn.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 14, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.